Gweithgareddau Ategol Deall Defnyddiau (Welsh Edition)

Mae"r gyfres Gweithgareddau Ategol yn cynnwys gweithgareddau llun-gopïadwy i"w defnyddio gyda dysgwyr araf neu ddisgyblion gydag anawsterau dysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae"r llyfrau"n cyflwyno un cysyniad ar bob taflen, gan ddefnyddio iaith syml a llinellau du clir ar luniau, sy"n eu gwneud yn hawdd i"w darllen a"i deall. Mae Deall Defnyddiau yn cynnwys 42 o daflenni llun-gopïadwy i helpu disgyblion i ddeall nodweddion defnyddiau trwy ymchwiliad. Mae"r taflenni"n atgyfnerthu dulliau ymchwil gwyddonol drwy fynnu bod disgyblion yn cynllunio, gwneud gweithgareddau ymarferol, ystyried tystiolaeth, a chyflwyno syniadau a chasgliadau. Mae nhw"n canolbwyntio ar greu grwpiau a dosbarthu defnyddiau, newid defnyddiau a gwahanu cymysgedd o ddefnyddiau. Mae hefyd yn cynnwys cysyniadau eraill fel grymoedd, gwres a magneteg yng nghyswllt deall nodweddion defnyddiau.