Cleddyf Ym Mrwydr Yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (Y Meddwl A"r Dychymyg Cymreig)

Price 32.80 USD

EAN/UPC/ISBN Code 9780708325926


Dyma"r astudiaeth gyntaf o hanes lliwgar a ffilmiau dadleuol y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (1971 - 86), a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith megis Teisennau Mair, O"r Ddaear Hen a Madam Wen. Wrth olhrain hanes y sefydliad, dadleuir fod sefydlu"r Bwrdd yn rhan o"r frwydr dros ddiogelu a gwarchod y Gymraeg a yrrwyd gan ysfa caredigion yr iaith i sicrhau parhad iddi. Gyda ffigyrau cyfrifiadau 1961 a 1971 yn tystio i ddihoeni graddol niferoedd y siaradwyr Cymraeg, a chyda"r broses ddemocrataidd yn profi"n bur aneffeithlon, roedd sefydlu"r Bwrdd yn un ymgais arloesol ymhlith nifer i geisio diogelu ac ymrymuso"r iaith trwy ddulliau diwylliannol.